GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
130 - Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 5 Ebrill 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
24 Ebrill 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
2 Mai 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 15 |
SICM o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Gweithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Cynigir gwneud y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Os bydd y DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb ('Dim Cytundeb'), ni fyddai gan y DU gytundeb ar waith i barhau i gymryd rhan yn System Masnachu Allyriadau'r UE, a fyddai'n creu elfennau yn y ddeddfwriaeth bresennol na fyddai modd eu gweithredu. Diddymodd Rheoliadau Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 (OS 2019/107) ddarpariaethau penodol a fydd yn peidio â bod yn gymwys ar y diwrnod ymadael a diwygiodd eraill i fynd i'r afael â'r elfennau na fyddai modd eu gweithredu.
Mae'r offeryn hwn yn gwneud rhagor o ddiwygiadau at yr un diben, yn dilyn diwygiadau i gyfraith yr UE sy'n llywodraethu System Masnachu Allyriadau'r UE (yn ymwneud yn bennaf â gwirio allyriadau, ac achredu gwirwyr). Byddai'r diwygiadau hyn i gyfraith yr UE yn arwain at fwy o elfennau na fyddai modd eu gweithredu pe bai ymadawiad dim cytundeb. Esboniwyd yr angen am yr offeryn arall hwn yn y Memorandwm Esboniadol a oedd yn cyd-fynd ag OS 2019/107.
Yn dilyn y diwygiadau hyn i gyfraith yr UE, mae'r darpariaethau a wnaed gan OS 2019/107 yn dal i ddarparu rheoliadau monitro ac adrodd gweithredol i weithredwyr y DU, gan fod y diwygiadau i gyfraith yr UE yn cael eu gwneud yn bennaf i ofynion achredu a gwirio. Mae'r offeryn hwn yn cyfrif am y newidiadau hynny a bydd mewn grym cyn i weithredwyr y DU ddechrau'r prosesau achredu a gwirio. Ni fydd yr elfennau na fyddai modd eu gweithredu a gyflwynir gan y diwygiadau i gyfraith yr UE yn cael effaith berthnasol ar y gweithredwyr ar y diwrnod ymadael.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 11 Ebrill 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |